....100% Organic Poultry Diets- The Challenge..Dietau Dofednod 100% Organig– Yr Her....

....

100% Organic Poultry Diets
- The Challenge

..

Dietau Dofednod 100% Organig
– Yr Her

....

....

Everyone involved in the organic community are keen for diets to be as organic as possible, and indeed ruminant feeds are 100% organic.

The simpler digestive systems of mono-gastric animals, particularly poultry, means that there is not the nutritional latitude to achieve nutritionally effective 100% diets without compromising bird welfare. 

Across the EU, the standard for organic poultry feed is that the diets are 95% organic, with 5% being made up from a short 'Green List' of approved raw materials for incorporation in organic diets.  Green list materials are richer in certain amino acids, in particular methionine, which is naturally lacking in the organic raw materials that are available.  In conventional diets, these amino acids would be supplied using 'synthetic' amino acids, which are forbidden to be used in organic diets.  The EU Commission accepts that organic poultry diets cannot yet achieved 100% organic raw materials.

Organic poultry diets that do not compromise bird welfare

..

Mae pawb sydd a wnelo â’r gymuned organig yn awyddus i ddietau fod mor organig â phosibl ac, yn wir, mae bwydydd anifeiliaid sy’n cnoi cil yn 100% organig.

Mae systemau treulio symlach anifeiliaid ag un stumog, yn enwedig dofednod, yn golygu nad yw cwmpas y maeth yn ddigon i gynhyrchu dietau sy’n 100% effeithiol o ran maeth heb fod yn niweidiol i lesiant yr adar.

Ledled yr UE, y safon ar gyfer bwyd dofednod organig yw bod y dietau yn 95% organig, gyda 5% o’r cyfansoddiad yn dod o ‘Restr Werdd’ fer o ddeunyddiau crai cymeradwy i’w cynnwys mewn dietau organig.

Mae deunyddiau ar y rhestr werdd yn cynnwys mwy o rai asidau amino penodol, yn enwedig methïonin, nad yw’n rhan naturiol o’r deunyddiau crai organig sydd ar gael.

Mewn dietau confensiynol, fe fyddai defnyddio asidau amino ‘synthetig’ yn cyflenwi’r asidau amino hyn, ond ni chaniateir defnyddio’r rhain mewn dietau organig.

Mae Comisiwn yr UE yn derbyn nad oes modd, hyd yma, cynhyrchu dietau dofednod organig â deunyddiau crai 100% organig.

Dietau dofednod organig nad ydyn nhw’n niweidiol i lesiant adar

....

....

Our poultry diets are 95% organic, and do not compromise the welfare of birds, and unless new organically approved raw materials are used, Wynnstay Humphrey Feeds will reluctantly continue to support 95% organic diets for poultry, as we want to ensure that organic poultry welfare is always optimal. 

We have made 100% diets, but they do have some element of nutritional compromise, and are less economically effective for the farmer, as well as being nutritionally wasteful – something organic should never be. 

The Wynnstay Humphrey Feeds team have over many years informed and influenced policy decision makers in the UK and EU Commission on this important issue for organic.

..

Mae ein dietau dofednod yn 95% organig, ac nid ydyn nhw’n niweidiol i lesiant adar, ac oni ddefnyddir deunyddiau crai newydd sydd wedi’u cymeradwyo’n organig, fe fydd Wynnstay Humphrey Feeds, yn groes i’r graen, yn parhau i gefnogi dietau 95% organig ar gyfer dofednod, gan ein bod eisiau sicrhau bod llesiant dofednod organig bob amser yn hollbwysig.

Rydyn ni wedi gwneud dietau 100% organig, ond mae hyn yn cael rhywfaint o effaith ar y maeth, ac maen nhw’n llai effeithiol yn economaidd i’r ffermwr, yn ogystal â bod yn wastrafflyd o ran y maeth – rhywbeth na ddylai cynnyrch organig fyth fod.

Mae tîm Wynnstay Humphrey Feeds wedi bod yn hysbysu ac yn dylanwadu ar y rheiny sy’n penderfynu ar bolisi yn y DU ac yng Nghomisiwn yr UE am sawl blwyddyn am y mater pwysig hwn yn ymwneud â chynnyrch organig.

....