....Balancing nutrition, energy and performance..Yn cydbwyso maeth, egni a pherfformiad....

....

Balancing nutrition, energy and performance

..

Yn cydbwyso maeth, egni a pherfformiad

....

....

As a specialist poultry feed supplier, finding the right balance between levels of nutrition, energy and performance is what we do.

With over 400 specialised diets currently available, we can provide your birds with poultry feed that is tailored to the needs of your flock throughout all stages of their life, whilst achieving your performance objectives.

The ingredients and composition of our feeds are key to optimizing your birds’ performance, welfare and your profit.  We only source the best ingredients from known origins, thereby ensuring a consistency that we can control and that our customers can trust.

The raw materials we select are chosen for the nutrients they provide, their palatability (are they tasty enough to encourage the birds to eat the right amount) and cost-effective contribution to the diet.

Cereal grains

Cereals are used to meet the energy requirement of the birds.  We mostly use wheat and sometimes barley.

Protein meals

Our vegetable proteins predominantly originate from soybeans and sunflowers and are included in the feed once the oil has been extracted.

Oils

Oils top up the energy provided by cereals.  We use two different types of oil to allow us to achieve egg size targets, and then crucially to control egg size later in lay.  

Minerals and vitamins

Minerals and vitamins are vital for the growth and development of poultry. Bone formation and enzyme activation require balanced and optimal quantities of calcium and phosphorus.

..

Fel cyflenwr bwyd dofednod arbenigol, ein nod yw dod o hyd i’r cydbwysedd iawn rhwng lefelau maeth, egni a pherfformiad.

Gyda mwy na 400 o ddietau arbenigol ar gael ar hyn o bryd, gallwn ni ddarparu bwyd dofednod i’ch adar sydd wedi’i greu yn benodol i ddiwallu anghenion eich haid gydol pob cyfnod o’u bywyd a hefyd i’ch helpu i gyflawni eich amcanion o ran perfformiad.

Mae cynhwysion a chyfansoddiad ein bwydydd yn allweddol i sicrhau bod eich adar yn perfformio ar eu gorau, eu bod yn byw bywyd mor fodlon â phosibl a’ch bod chithau’n gwneud cymaint o elw â phosibl.

Dydyn ni ddim ond yn defnyddio’r cynhwysion gorau o ffynonellau rydyn ni’n eu hadnabod, gan sicrhau cysondeb y gallwn ni ei reoli ac y gall ein cwsmeriaid ymddiried ynddo.

Mae’r deunyddiau crai rydyn ni’n eu dethol yn cael eu dewis am y maetholion y maen nhw’n eu darparu, eu blasusrwydd (ydyn nhw’n ddigon blasus i annog yr adar i fwyta’r swm iawn) a’u cyfraniad cost-effeithiol i’r diet.

Grawnfwydydd

Defnyddir grawnfwydydd i fodloni gofynion egni’r adar.

Rydyn ni’n defnyddio gwenith yn bennaf, a haidd weithiau.

Blawd protein

Daw ein proteinau llysieuol yn bennaf o ffa soia a blodau haul ac maen nhw’n cael eu cynnwys yn y bwyd unwaith y mae’r olew wedi’i dynnu allan.

Olewau

Mae olewau’n ychwanegu at yr egni y mae’r grawnfwydydd yn ei ddarparu.

Rydyn ni’n defnyddio dau fath gwahanol o olew i’n caniatáu ni i gyrraedd targedau o ran maint wyau ac yna, yn hanfodol, i reoli maint wyau yn ddiweddarach yn ystod y dodwy.

Mwynau a fitaminau

Mae mwynau a fitaminau’n hanfodol i ddofednod dyfu a datblygu.

Mae angen symiau cytbwys o galsiwm a ffosfforws a chymaint â phosibl ohonyn nhw i ffurfio esgyrn a symbylu ensym.

....